|
1. Archebu
1.1 Mae’r holl drefniadau archebu yn unol â’r amodau a thelerau hyn; a bydd
y ffurflen archebu wedi'i llenwi a'i llofnodi ynghyd â'r amodau a thelerau
hyn yn ffurfio'r cytundeb cyfan rhyngoch chi ('y Cwsmer' neu'r 'Cyfranogydd')
neu'r person sy’n archebu ar eich rhan, a’r Cyngor.
1.2 Rhaid i ni dderbyn ffurflenni archebu a thaliad llawn cyn dechrau’r cwrs.
1.3 Gellir archebu dros dro, cyn belled â'n bod ni'n derbyn y ffurflen
archebu cyflawn ynghyd â’r tâl cyn pen 7 diwrnod ar ôl archebu dros y ffôn.
1.4 Byddwn ni’n postio ein cadarnhad i ddweud ein bod wedi derbyn eich
archeb cyn pen 7 diwrnod ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen archebu a thaliad.
Ni fydd lle wedi’i archebu i chi nes y byddwn wedi cadarnhau hynny.
2. Tâl
2.1 Mae ffioedd yn daladwy yn llawn wrth archebu ar gyfer yr holl gyrsiau,
ac eithrio ar gyfer grwpiau o 10 person neu fwy.
2.2 Ar gyfer grwpiau o 10 neu fwy o bobl, mae angen blaendal, na ellir ei
ad-dalu, o 25% o'r cyfanswm ffi wrth archebu; ac mae angen talu balans y ffi
o leiaf 3 wythnos cyn i'r cwrs ddechrau.
2.3 Gellir talu dros y ffôn, drwy’r post neu’n bersonol gan ddefnyddio
Maestro, MasterCard, Visa, Siec, neu Arian Parod (Rhaid gwneud taliadau ag
arian parod yn bersonol yng Nghanolfan Channel View).
2.4 Ar gyfer archebion a wneir gan sefydliadau, efallai bydd archeb
swyddogol neu ddogfen ysgrifenedig arall y gallwn ei anfonebu, yn unol â
chyfeirnodau credyd boddhaol, yn dderbyniol yn lle taliad llawn o flaen llaw.
Atodwch orchymyn prynu â'r ffurflen archebu.
3. Canslo/trosglwyddiadau
gan y Cyngor
3.1 Gwneir pob ymdrech i sicrhau y cynhelir y cyrsiau yn ôl yr amserlen.
Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i:
3.1.1 Ganslo cwrs ar unrhyw bryd pe na bai’r nifer yn cyrraedd y lleiafswm
ymarferol;
3.1.2 Canslo neu gwtogi unrhyw gwrs ar unrhyw bryd oherwydd amodau anaddas,
tywydd garw, neu unrhyw ffactorau eraill tu hwnt i'n rheolaeth; a neu
3.1.3 Canslo cwrs am unrhyw reswm arall gan roi rhybudd o ddim llai na 14
diwrnod i'r Cwsmer, a'r rhybudd i ddod i ben ar neu cyn dyddiad cychwyn y
cwrs.
3.1.4 Cyn belled ag y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig cwrs arall addas
a all gynnwys gweithgareddau neu ddyddiadau eraill, ond os na fyddwn yn
gallu gwneud hynny neu nad os yw’r cwrs arall a gynigir yn dderbyniol i’r
Cwsmer gwneir ad-daliad llawn ar gyfer cyrsiau a ganslwyd a gyfrifir pro
rata lle bo’n berthnasol.
3.2 Ni fydd y Cyngor yn atebol am gyrsiau a gaiff eu canslo ac eithrio’r hyn
a nodir yng nghymal 3.1 uchod.
4. Canslo/trosglwyddiadau
gan y Cwsmer
4.1 Rhaid gwneud pob cais ar gyfer canslo/trosglwyddo yn ysgrifenedig, i'n
swyddfa docynnau (derbynnir ffacs neu e-bost).
4.2 Ar ôl derbyn hysbysiad am gais i ganslo neu drosglwyddo:
4.2.1 Byddwn yn gwneud pob ymdrechion posibl i ddarparu ar gyfer eich cais;
4.2.2 Os gellir cynnig dyddiad neu weithgaredd arall o’r un gwerth sy’n
dderbyniol gan y ddwy ochr yna gwneir trosglwyddiad heb unrhyw gost bellach;
4.2.3 Yn unol â chymal 4.5 isod, os na ellir dod o hyd i ddewis arall sy’n
dderbyniol gan y ddwy ochr, yna rhoddir ad-daliad llawn cyhyd â'n bod ni'n
derbyn y cais i drosglwyddo / canslo o leiaf 3 wythnos cyn dyddiad cychwyn y
cwrs.
4.3 Ni ellir rhoi ad-daliad i unrhyw un sy'n canslo llai na 3 wythnos cyn
dyddiad cychwyn y cwrs.
4.4 Byddwn yn eich ad-dalu ar ôl dyddiad cychwyn y cwrs yn unig.
4.5 Pe baech yn canslo ar gyfer grwpiau o 10 neu fwy byddwch yn colli'r
blaendal 25%, ac os byddwch yn canslo llai na 3 wythnos cyn dyddiad cychwyn
y cwrs, ni fyddwn yn gallu ad-dalu'r ffi archebu llawn.
5. Tystysgrifau
5.1 Nid yw cymryd rhan mewn cwrs yn golygu y rhoddir tystysgrif.
5.2 Bydd tystysgrifau’n cael eu rhoi os yw hyfforddwr y Ganolfan yn credu
bod y Cwsmer yn dangos y gofynion priodol i basio.
5.3 Rydym yn cadw’r hawl i wrthod rhoi tystysgrif cyhyd â’n bod ni’n rhoi
rhesymau dros y penderfyniad ynghyd â chynllun gweithredu yn nodi ein
hyfforddiant/gwelliannau sy'n angenrheidiol cyn y gall y Cwsmer basio, a
chyn y gallwn gyflwyno tystysgrif.
6. Yswiriant a
cholli eiddo
6.1 Cyfrifoldeb y Cwsmer yw trefnu unrhyw yswiriant angenrheidiol, a all
gynnwys ond heb gyfyngiad yswiriant yn gysylltiedig â chanslo, chwtogi,
damweiniau personol, atebolrwydd personol, lladrata ac yswiriant dros
weithgareddau risg arbenigol; a byddwn yn argymell yn gryf i chi sicrhau yr
un peth.
6.2 Bydd y Cyngor yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golled, ddifrod neu anaf o
ganlyniad uniongyrchol i esgeulustod ar ran y Cyngor, ei swyddogion neu
asiantau yn unig.
6.3 Rhaid i chi ein hysbysu o eiddo a golloch o fewn pythefnos, gan y byddwn
yn cael gwared ar unrhyw eitemau ar ôl y cyfnod hwn.
7. Defnyddio eich
cwch/bad eich hun
7.1 Rhaid i gwsmeriaid sy’n defnyddio eu bad eu hunain sicrhau fod ganddynt
yswiriant priodol. Dylid darparu copi o’r polisi yswiriant ynghyd â
thystiolaeth o bremiymau wrth archebu.
7.2 Nid yw’r Cyngor yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golledion, hawliadau,
difrodau neu dreuliau mewn cysylltiad â defnyddio cyfleusterau’r Ganolfan,
oni bai eu bod o ganlyniad uniongyrchol i esgeulustod y Cyngor, ei
swyddogion neu asiantau.
8. Ffitrwydd
Corfforol/Gallu Nofio
8.1 Mae nifer o’r cyrsiau a gynigir yn gorfforol iawn a gallant gynnwys
plygu, codi, neidio, cwympo, ymestyn a rhywfaint o gydsymud; ac wrth archebu
rydych yn datgan fod gennych chi, neu'r person yr ydych yn archebu ar ei
ran, lefel digonol o ffitrwydd ar gyfer y gweithgareddau cysylltiedig. Os
oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â’ch meddyg i geisio cyngor ynglŷn â
ddylech chi gymryd rhan.
8.2 Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan mewn cwrs dŵr allu nofio 50 metr mewn
dillad ysgafn.
9. Diogelwch
9.1 Diogelwch yw’r peth pwysicaf â holl gyrsiau’r Ganolfan a rhaid i’r holl
Gyfranogwyr a’u rhieni a gwarcheidwaid gydnabod bod chwaraeon dŵr a
gweithgareddau antur yn beryglus o ran natur ac yn derbyn y risgiau sydd
ynghlwm â chyfranogi ynddynt.
9.2 Wrth ddarparu system waith ddiogel ac i
reoli risgiau cysylltiedig:
9.2.1 Byddwn yn cyflogi staff cymwys o fewn canllawiau’r corff llywodraethu
yn unig;
9.2.2 Rydym yn darparu ystod o offer amddiffyn a diogelwch personol o
ansawdd er lles diogelwch a chysur Cyfranogwyr;
9.2.3 Rydym yn darparu offer priodol ar gyfer eich cwrs;
9.2.4 Rydym yn addysgu i argymhellion a chanllawiau’r corff llywodraethu
lleol;
9.2.5 Mae gennym systemau rheoli a diogelwch cadarn sydd wedi’u harchwilio
gan gyrff cymeradwy megis y Gwasanaeth Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALS),
y Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA), Undeb Canŵa Prydain (BCU) a Chymdeithas
Canŵa Cymru (WCA); ac
9.2.6 Rydym yn cadw’r hawl i addasu neu
ganslo gweithgaredd os ydym yn teimlo bod risgiau nad ellir eu rheoli.
9.3 Rhaid i’r holl Gyfranogwyr gydymffurfio’n llawn ac yn brydlon bob amser
â’r holl reoliadau a chyfarwyddiadau diogelwch a gyflwynir gan y Ganolfan;
ei staff a/neu ei hyfforddwyr; ac ni chaniateir i Gyfranogwyr wneud unrhyw
beth (neu beidio gwneud unrhyw beth) a all achosi difrod neu golled i eiddo
neu gyfleusterau'r Ganolfan neu Gyfranogwyr eraill neu achosi niwsans,
diflastod, aflonyddwch, anhwylustod neu anaf i unrhyw berson arall ar yr
eiddo. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i derfynu arhosiad/defnydd unrhyw
berson(au) o gyfleusterau’r Ganolfan os ydyw'n credu eu bod yn torri amod
9.3, ac efallai bydd gofyn iddynt adael y Ganolfan ar unwaith. Ni roddir
unrhyw ad-daliadau yn yr achos hwn, ac ni fydd y Cyngor yn derbyn
cyfrifoldeb am unrhyw dreuliau, hawliadau neu gostau o ganlyniad i derfyniad
felly.
9.4 Rhaid tynnu modrwyau, clustlysau ac eitemau eraill o emwaith neu roi tâp
drostynt cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd neu gwrs yn y Ganolfan.
10. Datganiadau
meddygol neu ddietegol
10.1 Os oes gennych gyflwr neu salwch meddygol, gan gynnwys ond heb
gyfyngiad i feichiogrwydd a chyflwr y galon, rhaid i chi ddatgelu hyn ar
eich ffurflen archebu; a cheisio cyngor gan eich meddyg cyn archebu.
10.2 Rhaid i chi hefyd nodi ar y ffurflen archebu os oes gennych unrhyw
anabledd, gofynion arbennig neu anghenion dietegol y mae angen i ni fod yn
ymwybodol ohonynt.
11. Cyfranogwyr
dan 18
11.1 Bydd angen i bob person dan 18 oed gyflwyno ffurflen caniatâd rhieni/gwarcheidwaid
cyn cael cymryd rhan mewn cwrs. Mae’r ffurflen ganiatâd ofynnol ar gael yn
ein llyfryn, ac o’n swyddfa docynnau; a rhaid dychwelyd ffurflen ganiatâd
wedi’i llenwi a’i harwyddo i’r Ganolfan o leiaf 3 wythnos cyn dyddiad
cychwyn y cwrs.
11.2 Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw un dan 18 oed nes amser cychwyn y cwrs;
a rhaid i oedolyn eu casglu’n brydlon ar amser gorffen y cwrs.
12. Camgymeriadau
ac Esgeulustod
12.1 Tra gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb gwybodaeth cyhoeddusrwydd y
Cyngor, nid yw'r Cyngor yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriadau,
anghywirdeb neu esgeulustod ynddynt, ac mae'n cadw'r hawl i addasu prisiau,
amseroedd neu ddyddiadau cyrsiau ar unrhyw adeg. Edrychwch ar yr holl
gyfleusterau a phrisiau cyn archebu.
12.2 Cewch eich hysbysu am unrhyw newidiadau perthnasol pan fydd eich archeb
yn cael ei brosesu a chewch y cyfle i ganslo eich archeb heb gosb os
dymunwch.
13. Diogelu Data/Preifatrwydd
13.1 Bydd y wybodaeth a ddarparwch yn cael ei thrin yn unol â
darpariaethau’r Ddeddf Diogelu Data 1998.
13.2 Efallai byddwn yn cymryd lluniau o Gyfranogwyr ar gyfer pwrpasau
cyhoeddusrwydd, gan gynnwys i’w rhoi ar ein gwefan, ac wrth archebu rydych
yn rhoi eich caniatâd i ni wneud hyn, oni bai eich bod yn marcio’r bocs ar y
ffurflen archebu i nodi fel arall.
|