Mae Antur Caerdydd yn cynnig
gweithgareddau addysgol i ysgolion a phobl ifanc o
weithgaredd unigol i raglenni wythnos o hyd. P’run ai
ddiwrnod gweithgareddau diwedd y tymor ysgol, gwobr Dug
Caeredin, astudiaeth arall yn seiliedig ar y cwricwlwm neu
ran o Ddatblygiad Sgiliau Allweddol; rydym yn cynnig ystod
helaeth o raglenni a gweithgareddau ysgolion.
Mae’r holl gyrsiau a gynhelir gan Antur Caerdydd wedi'u
cynllunio i gefnogi Cyfnodau Allweddol 2 - 4 y Cwricwlwm
Cenedlaethol.
Gallwn gynnig gweithgareddau a chyrsiau yn ein canolfannau
ac oddi ar y safle, gan amrywio o un diwrnod i wythnos lawn,
o ychydig o blant i'r ysgol gyfan. Gall plant o Gyfnod
Allweddol 2 ac uwch gymryd rhan mewn gweithgareddau megis
meithrin tîm, dringo, datrys problemau a llawer mwy.
Gellir cynnig gweithgareddau penodol fel rhan o gyrsiau TGAU,
Lefel A, BTec a Gwasanaethau Cyhoeddus.
“Y trip ysgol
gorau i mi fynd arno."
Connor, 10 oed, Ysgol Llwynderw, Abertawe
Chwaraeon Padlo: Yn cynnig amrywiaeth eang o
gymwysterau o Badlo modur a Gwobrau ‘Star’ i dystysgrifau
hyfforddi.
Hwylio a Hwylfyrddio: Yn
dilyn Cam 1 - 4 y RYA, bydd myfyrwyr yn casglu gwybodaeth a
phrofiad mewn hwylio. Cynigir hwylio a hwylfyrddio ochr yn
ochr â chynllun ‘OnBoard’ y RYA. Ar hyn o bryd, Canolfan
Hwylio Llanisien yw’r unig ganolfan ‘OnBoard’ cydnabyddedig
yng Nghymru.
Rhwyfo: Â chefnogaeth yr
Ymddiriedolaeth Steve Redgrave, bydd myfyrwyr yn ennill
profiad mewn rhwyfo a rhidlo yn dilyn Cwrs Rhwyfo â
llafnau’r WARA.