|
Mae’r cyrsiau Aml-weithgareddau a gynhelir yng Nghanolfan
Hwylio Llanisien yn rhoi’r cyfle i chi brofi ystod o
weithgareddau cyffrous sy'n cynnwys: hwylio, hwylfyrddio,
rafftio byrfyfyr a datrys problemau.
Bydd pob gweithgarwch yn
rhoi’r cyfle i chi ddysgu sgiliau newydd a gwella gwaith tîm.
Mae’r cwrs hwn yn addas i blant rhwng 8 a 16 oed a gallwn
ddarparu ar gyfer hyd at 35 o bobl ar bob cwrs.
|
“Cafodd bawb ddiwrnod arbennig
ac roedd y bobl ifanc yn hapus ac yn flinedig iawn erbyn diwedd
y dydd." |
Aml-weithgareddau yn Llanisien
|
2 Ddiwrnod
£ 80
09:30 - 16:30
Lleoliad: Canolfan
Hwylio Llanisien |
21 - 22 Gorffennaf
28 - 29 Gorffennaf
4 - 5 Awst
11 - 12 Awst
18 - 19 Awst |
|
Gweithgareddau Antur Cynhwysol
Gweithgareddau cyffrous i
bobl ag anableddau
Gall Antur Caerdydd
ddarparu gweithgaredd neu raglen addas sy’n darparu profiad
cyffrous i bobl ifanc ac oedolion sy’n dymuno cyfranogi a
phrofi gweithgaredd awyr agored ym Mae Caerdydd a'r afonydd
amgylchynol. Mae’r ganolfan yn gweithio i ddatblygu
partneriaethau â sefydliadau statudol a gwirfoddol sy'n
darparu cyfleuster cynhwysol yn cynnig gweithgareddau â
chanŵa, canŵod dwbl, caiacio, hwylio, rhwyfo a rafftio.
Gellir trefnu gweithgareddau trwy ymgynghori ag unrhyw
sefydliad sydd eisiau cynnig gweithgaredd neu drip yn y
ganolfan gweithgareddau dŵr.
Mae’r holl staff wedi derbyn hyfforddiant anabledd ac wedi
cymryd rhan â gweithio â grwpiau agored i niwed mewn
gweithgareddau awyr agored. Gellir darparu offer addasadwy
ac arbenigol ar gyfer unrhyw anabledd neu nam gan gynnwys
defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Cysylltwch â’r Ganolfan i
gael rhagor o wybodaeth.
Aml-weithgareddau ym Mae Caerdydd
Gall Antur Caerdydd
ddarparu ar gyfer grwpiau bach a mawr, gan gynnig ystod o
weithgareddau cyffrous o rwyfo i feicio mynydd, hwylio i
ddatrys problemau a chanŵa i ddringo dan do. Mae’r
gweithgareddau hyn wedi’u seilio ar grwpiau ac rydym yn
hapus i ddylunio rhaglen sy’n addas ar gyfer pob archeb.
Mae Antur Caerdydd yn rhagori o ran darparu rhaglenni
aml-weithgaredd diwrnod neu wythnos o hyd i grwpiau
ieuenctid, colegau, teuluoedd a ffrindiau.
Pam na rowch gynnig ar siwrne Aml-Weithgareddau, gan gynnwys
beicio mynydd a thrip ar yr afon efallai?
|
Gall
gweithgareddau gynnwys:
Rhwyfo/Rhodli
Rhwyfo Dan Do
Dringo Dan Do
Canŵa |
Caiacio
Hwylio
Hwylfyrddio
Rhwyfo mewn cwch dwbl
Beicio mynydd
Datrys problemau |
|