Sailing at Llanishen Managed by Cardiff Harbour Authority www.cardiffharbour.com
Rowing on the River Taff Rowing in front of CBWAC
Rowing in front of CBWAC
Adventure Cardiff
   

   Hafan

   Cyrsiau a Gweithgareddau

   > Rhagor o Wybodaeth

   Amdanoch chi

   Cyfarwyddiadau

   Cysylltwch â ni

   Ffurflenni Archebu   

   Telerau ac Amodau 

   

 

 

  

  
Hafan > Rhagor o Wybodaeth

[Saesneg]

Ein Canolfannau
Mae Canolfan Gweithgareddau Dŵr Bae Caerdydd wedi’i lleoli’n ddelfrydol yn y cyfleuster pwrpasol yn Ne Caerdydd, ar ymyl yr Afon Taf. Â’n llithrffordd a phontynau pwrpasol, dyw'r dŵr ond tafliad carreg o’r cyfleuster. O fan hyn mae gennym gysylltiadau rhagorol i Daith Taf a gweddill Bae Caerdydd, yn ogystal â hwylio, rhwyfo a chanŵa.

Mae Canolfan Llanisien wedi’i lleoli yng Ngogledd Caerdydd. Mae wedi bod yn ganolfan hwylio am dros 25 mlynedd, ac wedi sefydlu enw da am ei gweithgareddau chwaraeon dŵr. Wedi’i lleoli yn amgylchedd prydferth Cronfa Ddŵr Llanisien, mae’r ganolfan yn lleoliad dysgu delfrydol i forwyr o bob gallu, o'r dechreuwr i'r rhai mwy brwdfrydig.

Ein Staff
Mae holl aelodau’r tîm wedi ymrwymo i sicrhau bod rhaglenni’n cael eu darparu i’r safonau proffesiynol uchaf.

Mae gan yr holl hyfforddwyr gymwysterau Hyfforddi Cenedlaethol y Corff Llywodraethu priodol gan y Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA) ac Undeb Canŵa Prydain (BCU), a’r profiad perthnasol angenrheidiol yn y gweithgareddau a oruchwyliant.

Ein Cyrsiau
Mae Antur Caerdydd yn cynnig mynediad i chwaraeon dŵr a gweithgareddau ar y tir yng nghalon y ddinas. Yn Llanisien a Bae Caerdydd mae gennym yr holl offer sydd ei angen arnoch am amser difyr a diogel.

Rydym yn arbenigo mewn defnyddio amrywiaeth o gychod a chynigir esboniad am bob cwrs yn y llyfryn. Mae’r holl weithgareddau’n ddibynnol ar y tywydd, a all arwain at ganslo'r cwrs. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfer pawb sydd wedi trefnu lle pe bai rhaid canslo.

Archebu’n Unigol ac mewn Grwpiau
Os nad ydych erioed wedi profi gwefr chwaraeon dŵr yna dyma eich cyfle! Rydym yn darparu ar gyfer amaturiaid a rhai proffesiynol o 8 oed a throsodd. Gall pobl ifanc neu oedolion archebu’n unigol neu fel rhan o grŵp mwy, gan ddewis dyddiadau, amseroedd a gweithgareddau. Gall y ddwy ganolfan ddarparu ar gyfer hyd at 35 o bobl. Bydd angen archebu ar gyfer grŵp o dros 20 o bobl cyn gynted â phosibl.

Ffoniwch y ganolfan am ragor o fanylion ar

Ymweld â ni cyn archebu
I ddarganfod mwy am safleoedd Bae Caerdydd neu Llanisien, mae croeso i chi ddod draw ac edrych o gwmpas. Efallai bydd gan arweinwyr grŵp, rhieni ac aelodau’r grŵp ddiddordeb cael taith o gwmpas y cyfleusterau a gweld y gweithgareddau a gynigir.

Mynediad i Bawb
Mae Mentro Allan yn cynnal rhaglenni sy’n helpu i ddatblygu cyfleoedd newydd i bobl ag anableddau yn ardal Caerdydd. Rydym yn sefydliad partner sy’n darparu gweithgareddau anturus hygyrch trwy ‘Arloesi', ar ran Mentro Allan ac rydym wedi ymrwymo i barhau â hyn yn 2008.

Yn Iach i’r Amgylchedd
Mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn fwy nag ymwybodol o’r effaith sydd gennym ar yr amgylchedd. Mae’r rheiny ohonom sy’n treulio ein hamser hamdden yn yr awyr agored yn ymwybodol o’r angen i amddiffyn yr amgylchedd naturiol drwy fabwysiadu arferion sy'n iach i'r amgylchedd. Rydym yn meddu ar y safon Draig Werdd Lefel 5, safon amgylcheddol cenedlaethol Cymru, sy'n cysylltu â pholisi cynaliadwyedd cyffredinol yr Awdurdod Harbwr a Chyngor Caerdydd.

Ein Prisiau a’n Cymwysterau
Mae ein prisiau wedi’u rhestru yn y tablau dan bob cwrs. Mae prisiau’r cyrsiau yn cynnwys yr holl hyfforddiant, offer; llyfrau log a thystysgrifau lle bo’n briodol.

Mae costau ieuenctid yn berthnasol i fyfyrwyr rhwng 8 ac 16 oed.

Mae’n holl Gyrsiau Hwylio'n dilyn maes llafur y RYA. Bydd y myfyriwr yn derbyn y dystysgrif briodol, os cyflawnir holl ofynion y Cwrs.

Ar gyfer Cyrsiau Chwaraeon Padlo gallwn gynnig ‘Pŵer Padlo’, BCU Cyfnod Allweddol 3 a 4; y Rhaglen Rhwyfo Iau Cenedlaethol ‘Go Row’ a Thystysgrif Rhwyfo â llafnau 1 a 2’.

Arlwyo
Mae Canolfan Gweithgareddau Dŵr Bae Caerdydd yn cynnig cyfleuster arlwyo â pheiriannau gwerthu, fodd bynnag argymhellir i chi ddod â'ch cinio'ch hun os ydych yn dod am sesiwn diwrnod llawn. Gellir archebu cinio parod ar gyfer grwpiau wrth archebu. Mae angen o leiaf 1 wythnos o rybudd.

Nid oes gennym unrhyw gyfleusterau arlwyo yn Llanisien.