|
|
Hafan
Cyrsiau a Gweithgareddau
Rhagor o Wybodaeth
Amdanoch chi
> Cyfarwyddiadau
Cysylltwch â ni
Ffurflenni Archebu
Telerau ac Amodau
|
|
Hafan
> Cyfarwyddiadau |
[Saesneg] |
Trafnidiaeth Gyhoeddus - Ar drên neu fws cysylltwch â TRAVELINE CYMRU
FF. 0870 608 2 608
www.traveline.org.uk
|
|
|
|
Cyfarwyddiadau
Canolfan Gweithgareddau
Dŵr Bae Caerdydd
I gyrraedd Bae Caerdydd a CBWAC o’r
draffordd, gadewch yr M4 yng Nghyffordd 33 a dilynwch yr A4232 i’r Bae gan
adael ar y gyffordd â'r arwydd Parc Manwerthu Bae Caerdydd.
|
Dilynwch y manylion ar y map isod, trwy Ferry Road gan droi i'r dde ar Jim
Driscoll Way ac i'r dde eto i'r Ganolfan Gweithgareddau Dŵr.
 |
 |
|
|
|
|
|
|
Canolfan Hwylio Llanisien
I gyrraedd Cronfa Ddŵr Llanisien o’r draffordd,
gadewch yr M4 yng Nghyffordd 32 (Coryton), ewch i ochr deheuol canol y
ddinas ar hyd yr A470 gan ddod at Gyfnewidfa Gabalfa.
Ewch i’r gogledd ar hyd Caerphilly Road (A469), gan droi i’r dde ar y B4562
ar Tŷ Glas Road a dilynwch Station Road i Lisvane Road, gan droi i’r dde i
Gronfa Ddŵr Llanisien.
|
|
Mynediad Hwylio Bae
Caerdydd Mae ein Canolfan Hwylio
ym Mae Caerdydd wedi’i lleoli yn Adeilad yr Amgylchedd ym mhen gogleddol
Morglawdd Bae Caerdydd. I gael mynediad i'r safle, rhaid i chi wneud eich
ffordd i ochr Penarth o Forglawdd Bae Caerdydd wrth ymyl yr Hen Dollty.
Cyn i chi ddod at Faes Parcio’r Morglawdd, mae gât ar eich ochr chwith. Hyd
at 10 munud cyn amser cychwyn y cwrs, bydd aelod o staff ar y gât i’ch
gadael chi i mewn.
Unwaith y cewch ganiatâd i groesi, gyrrwch ar hyd y lociau ac ar hyd Ffordd
y Morglawdd nes i chi ddod at Adeilad y Morglawdd lle gallwch barcio.
Wrth yrru ar draws y Morglawdd, rhaid i chi gadw ar y cyfyngiadau canlynol:
- Cyfyngiad cyflymder o 5 mya dros y lociau
- Cyfyngiad cyflymder o 20mya dros y Morglawdd
- Rhaid i chi roi eich goleuadau peryglon YMLAEN
Os ydych yn hwyr ac nad oes aelod o staff ar y gât i roi mynediad i chi,
gallwch gysylltu â ni ar 07968 147288. |
|
|
|
|
|
|