Sailing at Llanishen Managed by Cardiff Harbour Authority www.cardiffharbour.com
Rowing on the River Taff Rowing in front of CBWAC
Rowing in front of CBWAC
Adventure Cardiff
 



   Hafan

   Cyrsiau a Gweithgareddau

           Chwaraeon Padlo

         Rhwyfo

         Hwylio

         Hwylfyrddio

         Gyrru Cwch Modur

         Aml-Weithgareddau

         Ysgolion a Cholegau

         Padlo modur

         Corfforaetol

         Cyrsiau Eraill

   Rhagor o Wybodaeth

   Amdanoch chi

   Cyfarwyddiadau

   Cysylltwch â ni

   Ffurflenni Archebu   

   Telerau ac Amodau  

 

 
Hafan > Cyrsiau a Gweithgareddau

[Saesneg]

Chwaraeon Padlo:
Canŵa a Chaiacio yw un o’r chwaraeon dŵr mwyaf anturus. Mae’n gêm gyffrous a heriol, a diolch i’n safle unigryw, mae Antur Caerdydd yn cynnig lleoliadau delfrydol â dŵr lloches yng Nghanolfan Gweithgareddau Dŵr Bae Caerdydd (CBWAC) ar gyfer dechreuwyr ac yn lleoliad addas ar gyfer cyrsiau Môr a Dŵr Gwyn ar gyfer y rhai mwy profiadol.   more ....

Rhwyfo:
Mae rhwyfo a rhodli (sy’n debyg i rwyfo ond bod pob aelod o'r criw yn defnyddio dau rwyf, neu 'lafn', yn hytrach nag un) wedi bodoli ers canrifoedd bellach. Maent yn boblogaidd iawn erbyn hyn ag oedolion a phlant o gefndiroedd amrywiol.  more ....

Hwylio:
Gall hwylio dingi fod yn unrhyw beth o fordaith hamddenol i blaenio cyflymder uchel. Beth bynnag a ddewiswch, bydd eich cwrs hwylio yn cyd-fynd â’ch gallu ac yn defnyddio bad priodol ar gyfer eich maint a phrofiad.  more ....

Hwylfyrddio:
Mae hwylfyrddio’n un o’r chwaraeon dŵr mwyaf bywiocaol. Mae’n gamp gyffrous, heriol. Diolch i’n safle unigryw, mae Antur Caerdydd yn cynnig lleoliadau delfrydol â dŵr lloches yn ein Canolfan Hwylio Llanisien ar gyfer y nofis a dŵr agored yn ein Canolfan Bae Caerdydd ar gyfer y rhai mwy medrus. Rydym yn Ganolfan Hyfforddi RYA ac yn cynnig cyrsiau i oedolion a phlant.  more ....

Cychod Modur:
Mae’r Cynllun Cychod Modur Cenedlaethol i’r rheiny sy’n defnyddio cychod modur agored bychain ar gyfer hamdden neu waith. Mae’n cynnwys cyfres o gyrsiau ymarferol a fydd yn datblygu eich gwybodaeth a hyder a gall eich helpu i gyflawni Dystysgrifau Cymhwyster y RYA/MCA, a gydnabyddir gan awdurdodau byd-eang morwrol.  more ....

Aml-Weithgareddau:
Mae Cyrsiau Aml-Weithgareddau wedi’u cynllunio ar gyfer tywydd sych a
gwlyb; gan ddangos y cwbl sydd gan Antur Caerdydd i’w gynnig.

Mae gennym ystod o weithgareddau sy'n gymysgedd o weithgareddau - o chwaraeon padlo a
Hwylio, beicio mynydd a dringo dan do i rafftio a rhwyfo dan do. Gellir ei strwythuro ar eich cyfer neu ei addasu i gwrdd â’ch anghenion penodol.
 more ....

Ysgolion a Cholegau:
P’run ai diwrnod gweithgareddau diwedd tymor yr ysgol, gwobr Dug Caeredin,
astudiaeth arall yn seiliedig ar y cwricwlwm neu ran o Ddatblygiad Sgiliau Allweddol; rydym yn cynnig ystod helaeth o raglenni a gweithgareddau ysgolion.
more ....

Pŵer Padlo :
Rhaglen Undeb Canŵa Prydain yw Padlo Modur, sy’n caniatáu i bobl ifanc gynyddu a datblygu ar gwrs cydnabyddedig. Mae eu hannog i fynd allan ar y dŵr yn ffordd wych iddynt ddatblygu, dysgu a thyfu.

Dyw ffitrwydd ond yn un rhan o’r manteision o gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol a dyma'r cam cyntaf i ddatblygu sgiliau padlo hir dymor. more ....

Corfforaethol:
Mynediad i hyfforddiant a datblygiad mewn amgylchedd reoledig! Mae hyfforddiant awyr agored â hyfforddwyr brwdfrydig a phrofiadol yn effeithiol iawn wrth edrych ar ddatblygiad staff ac fe’i defnyddir gan nifer o sefydliadau blaenllaw heddiw. Mae Antur Caerdydd yn cynnig manteision corfforaethol ar nifer o lefelau; â hyfforddwyr cwbl gymwys. more ....

Cyrsiau Eraill:
Mae ein Canolfannau ym Mae Caerdydd a Llanisien yn cynnig nid yn unig yr her o ddysgu a gweithgareddau newydd, ond hefyd yn cynorthwyo datblygiad personol a chyffredinol.

Mae grwpiau'n datblygu hyder â chyrsiau wedi’u cynllunio i gwrdd ag anghenion yr holl gyfranogwyr, o’r sylfaenol i’r pellach, un rhyw a chymysg, ar y dŵr ac ar y tir. 
more ....