Sailing at Llanishen Managed by Cardiff Harbour Authority www.cardiffharbour.com
Rowing on the River Taff Rowing in front of CBWAC
Rowing in front of CBWAC
Adventure Cardiff
   

   Hafan

   Cyrsiau a Gweithgareddau

   Rhagor o Wybodaeth

   > Amdanoch chi

   Cyfarwyddiadau

   Cysylltwch â ni

   Ffurflenni Archebu   

   Telerau ac Amodau

   

 

  
Hafan > Amdanoch Chi

[Saesneg]

Rhaid i’r holl gyfranogwyr fod yn nofwyr cymwys wrth gyflawni chwaraeon dŵr, ac yn hyderus yn y dŵr. Mae hyn yn golygu gallu nofio hanner can metr gan aros dan y dŵr am 10 eiliad.

Fodd bynnag, os nad ydych yn hyderus yn y dŵr, Cysylltwch â’r Ganolfan a byddwn yn hapus i roi cyngor i chi. Os ydych yn dioddef o salwch neu gyflwr meddygol (asthma, clefyd y siwgr ayb), nodwch yn ar eich ffurflen gais. Bydd pob gwybodaeth yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol.

Gwisg
Darperir Cymhorthion Hynofedd, Siwtiau Gwlyb a Dillad Gwrth-ddŵr, â helmedau, a rhoddir helmedau i’r holl fyfyrwyr lle bo angen.

Wrth hwylio
Byddwn yn eich argymell i wisgo’n gynnes, dillad hamdden, gan gynnwys het a menyg.

Bydd JEANS neu drwsus CORDS yn gwlychu'n hawdd ac ni ddylid eu gwisgo.

Mae esgidiau gwrth-lithr yn hanfodol – mae esgidiau canfas yn ddelfrydol. Ni ddylid gwisgo ESGIDIAU GLAW neu ESGIDIAU CERDDED TRWM.

Os oes gennych eich dillad gwrth-ddŵr eich hun ac offer arall, dewch ag ef gyda chi. Cofiwch ddod â dillad eraill i newid iddynt a thywel.

Defnyddio eich offer eich hun
Rydym yn cynnig mynediad llithrffordd talu a chwarae ym Mae Caerdydd lle mae croeso i ddefnyddwyr dŵr profiadol ym mhob cyfleuster.

Eich diogelwch
Mae gan Antur Caerdydd systemau rheoli diogelwch yn eu lle a asesir gan archwiliadau gan yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA), Cymdeithas Canŵa Cymru (WCA) a Chymdeithas Rhwyfo Amatur Cymru (WARA).

Caiff yr holl weithgareddau dŵr eu goruchwylio gan Gychod Diogelwch â chriwiau. Rydym yn asesu ac yn nodi risgiau posibl ac yna’n cymryd camau gweithredu i reoli'r risgiau hyn. Y canlyniad yw’r cydbwysedd a gyflawnir, rhwng her, dysgu, mwynhad a diogelwch.